Skip to Main Content Accessibility

Cymraeg

Delio â Gwasanaeth Gwrandawiadau Gweithwyr Deintyddol Proffesiynol trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Gwasanaeth Gwrandawiadau Gweithwyr Deintyddol Proffesiynol wedi ymrwymo i gynnig ein gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Cyfathrebu ysgrifenedig

Gallwch ysgrifennu atom yn y Gymraeg, drwy lythyr neu e-bost.

Os ydych chi'n teimlo bod eich ymholiad yn un brys, gallwch ein ffonio ni ar 020 8253 0800 a bydd cydweithiwr yn eich cynorthwyo.

Rydym ar agor 9am-5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Bydd galwadau ffôn yn cael eu cynnig yn Saesneg. Os hoffech siarad yn y Gymraeg, fe gewch chi’r dewis o barhau â'r alwad yn Saesneg neu ysgrifennu atom yn y Gymraeg.

Codi pryderon a chwynion

Gallwch godi pryder am weithiwr deintyddol proffesiynol neu wneud cwyn i ni yn y Gymraeg, drwy lythyr neu e-bost, a byddwn yn eich ateb yn y Gymraeg o fewn yr un amserlen â phe baech wedi ysgrifennu atom yn y Saesneg.

Cyfarfodydd

Mae croeso i aelodau o'r cyhoedd sy'n bwriadu mynychu ein cyfarfodydd cyhoeddus yng Nghymru siarad yn Gymraeg (gofynnwn i chi roi rhybudd ymlaen llaw fel y gallwn drefnu cyfieithydd ar y pryd).

Bydd hysbysiadau o gyfarfodydd cyhoeddus yng Nghymru yn ddwyieithog, ynghyd ag unrhyw agendâu neu gofnodion.

Hunaniaeth gorfforaethol

Pan fyddwn yn ymateb i chi yn Gymraeg byddwn hefyd yn defnyddio fersiynau Cymraeg ein logo, hunaniaeth gorfforaethol a'n papur pennawd.

Cyhoeddiadau

Mae llawer o'n cyhoeddiadau i gleifion ac aelodau o'r cyhoedd ar gael yn Gymraeg. Bydd safonau a chanllawiau proffesiynol yn cael eu cyfieithu ar gais.

Cynhyrchir ein hadroddiad blynyddol a'n cyfrifon yn ddwyieithog ac maent ar gael yma.

Mae'r cyhoeddiadau canlynol ar gael yn Gymraeg ar gais:

  1. Taflen 'Pwy sy'n rheoleiddio gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol
  2. Taflen 'Mynd dramor am eich gofal deintyddol
  3. ‘Ystyried gwynnu dannedd?'
  4. ‘Taflen 'Cyngor i'r rhai sy'n cyflogi gweithwyr deintyddol proffesiynol

Y wasg a hysbysebu

Byddwn yn cyhoeddi datganiadau dwyieithog i’r wasg ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru. Darperir cyfieithiadau ar gais. Bydd hysbysebion a chyhoeddusrwydd yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi'n ddwyieithog, yn ogystal â hysbysebion cylchgronau a phapurau newydd.

Os oes unrhyw un yn cysylltu â ni drwy'r cyfryngau cymdeithasol yn y Gymraeg, byddwn yn ateb yn y Gymraeg (os oes angen ateb). Hefyd, pan fyddwn yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol ac yn postio cynnwys sy'n ymwneud â Chymru yn unig, byddwn yn cyhoeddi'r neges yn y Gymraeg.

Gwrandawiadau

Mae gennych chi'r hawl i godi pryder am berson cofrestredig yn y Gymraeg.

Os bydd hyn yn arwain at wrandawiad, gallwch roi tystiolaeth yn y Gymraeg. Pan fyddwn yn cael gwybod bod tyst yn dymuno rhoi tystiolaeth yn y Gymraeg, byddwn yn ei gynorthwyo i wneud hynny drwy ddefnyddio cyfieithwyr â chymwysterau addas. Mae angen rhybudd ymlaen llaw arnom i allu gwneud hyn yn effeithiol.

Safonau'r laith Gymraeg

Mae Safonau'r Gymraeg, a sefydlwyd o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yn creu fframwaith cyfreithiol sy'n gwarantu'r hawl i unigolion yng Nghymru gael mynediad at wasanaethau penodol drwy gyfrwng y Gymraeg. Hefyd, fe wnaeth y Mesur greu rôl Comisiynydd y Gymraeg, sydd â'r dasg o oruchwylio a sicrhau cydymffurfiaeth â'r Safonau hyn.

Rydym wedi ymrwymo i gryfhau ein gwasanaethau Cymraeg yn unol â'r PDFhysbysiad cydymffurfio (277.08 KB) gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg. Bydd bodloni'r gofynion hyn yn ein galluogi i wella lefel y gwasanaethau Cymraeg y gall aelodau o'r cyhoedd yng Nghymru ddisgwyl eu cael gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol.

Fel rhan o'n hymrwymiad i Safonau'r Gymraeg, ein nod yw dyrannu lefel resymol a chymesur o adnoddau gweithredol seiliedig ar wybodaeth er mwyn diwallu anghenion siaradwyr Cymraeg, yn ogystal â chynorthwyo ein staff i gyflawni'r amcan hwn.

Wrth fodloni'r safonau, rydym hefyd yn ystyried ein rhwymedigaethau deddfwriaethol ehangach, gan gynnwys y rhai sydd wedi'u nodi yn Neddf Deintyddion 1984.

Er nad yw'r safonau yn berthnasol i bob agwedd ar ein gwaith, lle maent yn berthnasol rydym wedi ymrwymo i'r egwyddor o sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Cwynion ac adborth am ein gwasanaeth

Os hoffech chi roi unrhyw adborth i ni a/neu os oes gennych unrhyw bryderon am ein darpariaeth Gymraeg neu ein cydymffurfiaeth â safonau'r Gymraeg, mae croeso i chi gysylltu â ni. Os hoffech chi wybod sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni, darllenwch ein datganiad preifatrwydd.